Mae’r gwaith o ddychwelyd cyrff y cafwyd hyd iddyn nhw yng nghefn lori yn Essex, i Fietnam wedi dechrau.

Mae 16 o’r 39 wedi cael mynd adref erbyn hyn.

Mae’r cyrff wedi cael eu casglu oddi ar awyren yn Hanoi, a’u trosglwyddo mewn ambiwlansys i’w hardaloedd eu hunain yn y wlad.

Cafwyd hyd i’r cyrff ar Hydref 23, ac mae lle i gredu eu bod nhw i gyd rhwng 15 a 44 oed.

Roedd y 39, oedd yn cynnwys wyth o fenywod, wedi talu i gael eu cludo i wledydd Prydain.

Mae nifer o bobol wedi cael eu harestio a’u cyhuddo mewn perthynas â masnachu pobol.