Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r tro pedol a fydd yn gweld y blaid yn cael ei chynnwys yn y ddadl deledu ar Channel 4 cyn yr etholiad cyffredinol fis nesaf.
Bydd y ddadl deledu nos yfory (nos Iau, Tachwedd 28) yn rhoi sylw arbennig i newid hinsawdd.
Dim ond Jeremy Corbyn (Llafur), Nicola Sturgeon (SNP), Jo Swinson (Democratiaid Rhyddfrydol) a Sian Berry (y Blaid Werdd) oedd wedi cael eu cadarnhau, gyda Boris Johnson a Nigel Farage wedi’u gwahodd hefyd.
Ond doedd dim lle, serch hynny, i Adam Price.
Ond mae’r blaid yn dweud eu bod nhw’n “eithriadol o hapus” ar ôl i Channel 4 wneud tro pedol ac estyn gwahoddiad i’r arweinydd wedi’r cyfan.
Newid hinsawdd
“Argyfwng yr hinsawdd yw’r her sy’n diffinio ein hoes,” meddai Plaid Cymru mewn datganiad.
“Dyna pam fod Plaid Cymru wedi amlinellu cynllun ar gyfer Chwyldro Swyddi Gwyrdd i fuddsoddi £20bn mewn swyddi coler gwyrdd, herio argyfwng yr hinsawdd, gwneud Cymru’n 100% yn hunangynhaliol mewn ynni adnewyddadwy erbyn 2030 a sicrhau bod Cymru’n rhydd o garbon a phlastig un tro.
“Hefyd, dyna pam ein bod ni wedi cyflwyno cynnig yn y Senedd yn gynharach eleni yn datgan argyfwng yr hinsawdd, a pham mai ein harweinydd Adam Price oedd yr arweinydd pleidiol cyntaf i gyfarfod â’r Gwrthryfel Difodiant yn ystod yr ymgyrch etholiad cyffredinol hon.
“Mae ein record ar newid hinsawdd a materion amgylcheddol yn siarad drosti ei hun.
“Edrychwn ymlaen i weld ein harweinydd Adam Price yn cymryd rhan yn y ddadl ddydd Iau a dangos mai ni sydd bob amser orau ar gyfer Cymru gynaladawy sydd yn cymryd yr argyfwng hinsawdd o ddifri.”