Mae saith o bobol wedi’u dedfrydu i farwolaeth yn Bangladesh am eu rhan mewn ymosodiad brawychol ar gaffi yn 2016.

Cafodd mwy nag 20 o bobol eu lladd yn yr ymosodiad gan grŵp eithafol sydd wedi’i wahardd yn y wlad.

Cafwyd yr aelodau o Jumatul Mujahedeen Bangladesh yn euog o nifer o droseddau, gan gynnwys cynllunio’r ymosodiad, creu bomiau a llofruddiaeth.

Fe wnaeth pump o ddynion arfog gymryd gwystlon a saethu nifer o bobol yn Dhaka, gan ladd 20 o bobol, gan gynnwys 17 o Japan, yr Eidal ac India.