Mae arlywydd Ffrainc  wedi cadarnhau fod gwrthdrawiad rhwng dwy hofrennydd wedi llad 13 milwr yn Mali.

Roedd y milwyr wedi bod yn ymladd yn erbyn eithafwyr Islamaidd, meddai Emmanuel Macron, a’i fod yn teimlo’n “drist iawn” a m y digwyddiad.

Mewn datganiad ysgrifenedig, pwysleisiodd ei gefnogaeth i luoedd arfog Ffrainc a “dewder y milwyr Ffrengig”.

Dywed y gweinidog amddiffyn Florence Parly fod ymchwiliad wedi ei agor y ddarganfod achos y ddamwain.