Mae daeargryn nerthol wed ysgwd Albania, gan ladd o leia’ chwech o bobol, anaf 300 o bobol eraill, ac achosi adeiladau i ddymchwel.
Roedd y cryndod yn mesur 6.4 ar y raddfa, ac roedd ei ganlbwynt rhyw ddeg milltir i’r gogledd-orllewin o brifddinas y wlad, Tirana.
Mae’r arlywydd, Ilir Meta, y dweud fod y sefyllfa yn nhref Thumane yn arbennig o “ddramatig”.
Fe gafodd cyrff dau o bobol eu tynnu allan o ganol adeilad yn ninas Durres, 20 milltir i’r gorllewin o Tirana. Fe gafodd person arall ei ganfod yn farw yn yr un adeilad, tra bod dau gorff wedi cael eu cod o rwbel adeilad yn Thumane.
Fe laddwyd dyn arall wedi iddo neidio o’i gartref wrth geisio dianc yn Kurbin, 30 milltr i’r gogledd o Tirana.