Mae barwr wedi pennu dyddiad ar gyfer achos y ddau giard carchar a oedd ar ddyletswydd y noson y bu farw’r pedoffeil, Jeffrey Epstein, yn y carchar Amerca.
Maen nbw wedi’u cyhudd o fethu â gwneud yr archwiliadau cywir o ran diogelwch.
Fe fydd yr achs yn erbyn Tova Noel a Michael Thomas yn dechrau ar Ebrill 20, 2020, meddai’r Barnwr Analisa Torres.
Wedi iddyn nhw gael eu harestio yr wythnos ddiwethaf mae’r ddau wedi pledio’n ddieuog i ddweud celwydd am gofnodion carchar, ac o roi’r argraff eu bod wedi gwneud y gwaith goruchwyio priodol.
Fe ddaethpwyd o hyd i Jeffrey Epstein yn farw yn ei gell ar Awst 10 eleni, ac fe gofnododd crwner Efrog Newydd ddyfarniad o hunanladdiad.