Mae gwrthdystio rhwng protestwyr Libanus a chefnogwyr Shiiaidd Hezbollah yn bygwth mynd dros ben llestri yn Libanus, ac fe allai’r sefyllfa fregus yno rhwng y carfanau gwleidyddol ffrwydro, meddai sylwebwyr.
Am wythnosau, mae lluoedd diogelwch y wlad wedi bod yn gwarchod y protestwyr sy’n gwrthwynebu’r llywodraeth – yn hollol wahanol i’r hyn sy’n digwydd yn Irac, lle mae’r heddlu wedi lladd rhagor na 340 o bobol dros y mis diwethaf. .
Mae’r trais dros nos wedi ei ddisgrifio fel y gwaethaf ers i’r gwrthdystio ddechrau tua mis yn ol. Trwy ymosod ar brotestwyr nos Sul (Tachwedd 24), mae Hezbollah yn dangos ei fod yn barod i ddefnyddio grym er mwyn gwarchod grym gwleidyddol.