Mae’r awdurdodau wedi dod o hyd i gorff yn y gwyllt yn Awstralia – a’r gred yw mai dyn o wledydd Prydain, Aslan King, yw e.
Mae heddlu ardal Fictoria wedi rhyddhau datganiad yn dweud nad yw’r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol et, ond yn dweud eu bod o’r farn mai corff Aslan King sydd wedi’i ganfod.
Does neb wedi gweld y gwr 25 oed ers iddo adael ei grwp o ffrindiau mewn maes gwersylla tua 2yb ddydd Sadwrn (Tachwedd 23).
Fe gafodd y corff ei ganfod mewn agen ychydig dros gilometr o’r fan lle gwelwyd Aslan King am y tro diwethaf