Mae myfyrwr, ymgyrchwyr hawliau merched, a phobol frodorol wedi bod yn gorymdeithio trwy’r strydoedd ym mhrifddinas Colombia, yn ystod pumed dydd o brotestiadau yn erbyn llywodraeth yr arlywydd Ivan Duque.

Fe ddechreuodd y gwrthdystio yn wreiddiol fel rhan o ddigwyddiadau i nodi Diwrnod Gwrthwynebu Trais yn erbyn menywod, ond mae wedi troi yn rali yn erbyn y llywodraeth, gyda phrotestwyr yn mynegi eu rhwystredigaeth yn erbyn llygredd ariannol, anghyfartaledd economaidd a thrais mewn ardaloedd gweledig.

Y gred ydi fod tuua 250,000 o bobol wedi bod ar y strydoedd yn ninas Bogota ers dydd Iau diwethaf (Tachwedd 21).

Fe ddaw’r protestio yn dilyn raliau teby yng ngwledydd Ecwador, Bolifia a Chile.