Mae dau ddyn wedii cael eu harestio mewn cysylltiad ag achos o herwgipio dyn yn ei 40au yn ardal Thornton Heath, Llundain yn oriau mân ddydd Llun (Tachwedd 25).
Mae Benjamin Oliveira, 36, o Brierley, New Addington wedi cael ei gyhuddo o herwgipio, o fod ag arf yn ei feddiant, ac o’r bwriad o gyflawni trosedd anghyfreithlon. o achosi niwed corfforol ac o yrru’n beryglus.
Mae Aubin Wadman, 22, o Croydon wedi cael ei gyhuffo o herwgipio, o fod ag arf yn ei feddiant, o fwriad i gyflawni trosedd anghyfreithlon, ac o achosi niwed corfforol.
Mae’r ddau yn cael eu cadw yn y ddafa, ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron Llys Ynadon Camberwell Green heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 26).
Roedd y dioddefwr honedig yn cerdded gartref o’i waith pan gafodd ei dynnu i mewn i gefn fan tua 2.30yb ddydd Llun.