Mae canran uchel o bobol wedi pleidleisio yn etholiad cyffredinol Hong Kong.

Dywed yr awdurdodau fod 31% o’r 4.1m o bobol sydd wedi cofrestru i bleidleisio eisoes wedi bwrw eu pleidlais – sy’n gynnydd o 14.5% ers yr etholiad diwethaf bum mlynedd yn ôl.

Daw’r etholiad ynghanol protestiadau sydd wedi para pum mis.

Mae 452 o seddau ar gael mewn 18 o ardaloedd ar gyfer yr unig etholiad sy’n gwbl ddemocrataidd yn y wlad.

Mae haenau uwch y byd gwleidyddol yn cael eu dewis yn rhannol gan y boblogaeth ac yn rhannol gan grwpiau maen nhw’n eu cynrychioli.

Caiff yr arweinydd ei ddewis gan gorff o 1,200 o bobol sy’n bennaf yn gefnogwyr y llywodraeth ganolog yn Beijing.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ar eu gwaith ar Ionawr 1, a byddan nhw yn eu swyddi am bedair blynedd.