Mae o leiaf 34 o bobl wedi marw o ganlyniad i lifogydd yn Kenya.
Yn dilyn llifogydd yn sgil glaw trwm neithiwr, fe fu farw 29 o bobl mewn amryw o lithriadau mwd yng ngorllewin y wlad, a phump arall wrth i’w car gael ei ysgubo o’r ffordd mewn llifogydd.
Mae’r llywodraeth wedi anfon hofrenyddion y fyddin a’r heddlu i helpu dioddefwyr y llifogydd ond nid yw union raddau’r trychineb yn glir eto.
Mae dros filiwn o bobl yn nwyrain Affrica wedi cael eu taro gan lifogydd wedi glaw uwch nag arfer, gyda 72 o bobl wedi marw o ganlyniad i lifogydd yn Kenya dros y mis a hanner diwethaf.