Mae’r protestiadau wedi dod i ben dros dro yn Bolifia ar ôl addewid am etholiad newydd a thrafodaethau i ddatrys anghydfod sydd wedi achosi o leiaf 32 o farwolaethau.

Roedd yr arlywydd Evo Morales wedi cyhoeddi ei hun fel y buddugwr yn etholiad y wlad ar 20 Hydref er gwaethaf honiadau o dwyll etholiadol.

Ers iddo ymddiswyddo ar gais y fyddin ar Dachwedd 10 a mynd yn alltud i Mecsico, mae ei gefnogwyr wedi bod yn cynnal ton o brotestiadau mawr a rhwystro’r priffyrdd i mewn i’r dinasoedd.

Maen nhw wedi bod yn galw am ei ddychweliad ac am ymddiswyddiad Jeanine Anez, sydd wedi datgan ei hun fel yr arweinydd interim.

Yn dilyn addewid y llywodraeth i gynnal trafodaethau gyda nhw, mae’r protestwyr wedi cytuno i ailagor y ffyrdd, a rhoi’r gorau i’r rhwystrau a oedd arwain at brinder bwydydd a thanwyddau yn y dinasoedd.