Mae dyn wedi marw a thri dyn arall wedi cael eu hanafu ar ôl achos o drywanu ychydig cyn 9 o’r gloch y bore yma yn nwyrain Llundain.

Roedd y dyn yn ei 20au wedi marw yn y fan a’r lle yn Buckle Street, Whitechapel, ac aed â’r tri dyn arall am driniaeth i’r ysbyty.

Mae dau o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.

Mae presenoldeb mawr o blismyn a thimau fforensig yn dal yno’n ymchwilio i’r digwyddiad.