Mae protestwyr yn Hong Kong wedi saethu plismon yn ei goes â bwa saeth, ac wedi rhoi pont ar dân.

Roedden nhw’n ymateb i ymdrechion yr heddlu i’w tawelu gan ddefnyddio nwy ddagrau a chanonau.

Maen nhw wedi ymgynnull ar gampws prifysgol wrth i’r gwrthdaro barhau, ac mae’r bont sydd wedi’i roi ar dân yn cysylltu’r brifysgol â gorsaf drenau.

Fe fu’r protestiadau ar y gweill ers dros bum mis bellach, wrth i’r protestwyr gynyddu’r pwysau ar arweinwyr y wlad ynghylch deddfau dadleuol.

Maen nhw’n dadlau bod deddfwriaeth estraddodi, sydd wedi’i rhoi o’r neilltu erbyn hyn, yn mynd yn groes i’r cytundeb annibyniaeth yn 1997.