Mae Jeremy Corbyn yn dweud na fyddai’n rhoi’r hawl i’r Alban gynnal refferendwm annibyniaeth cyn 2021.
Fe fu’n ymateb i Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, sy’n dweud nad oes modd stopio’r Alban rhag mynd yn annibynnol.
Mae Nicola Sturgeon, arweinydd y blaid, eisoes yn dweud ei bod hi am gynnal ail refferendwm yn niwedd y flwyddyn nesaf a’i bod hi am ofyn i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, am ganiatâd i’w gynnal.
Mae Jeremy Corbyn wedi gwrthod rhoi sicrwydd i’r SNP y byddai’n cael ei gynnal o fewn blwyddyn gyntaf Llafur mewn grym.
“Dw i ddim eisiau i ni dreulio’r flwyddyn gyntaf ar refferendwm annibyniaeth,” meddai.
Mae’n dweud ei fod e am ganolbwyntio ar addewid o £70bn i Fanc Buddsoddi’r Alban sydd, meddai, “yn rhan o ddosraniad teg”.
Fydd yna’n “sicr ddim” refferendwm annibyniaeth cyn 2021, meddai.