Mae arlywydd Belarws yn wfftio amheuon am ddilysrwydd etholiad y wlad ar ôl i nifer o ymgeiswyr y gwrthbleidiau gael eu gwahardd rhag sefyll.
Mae Alexander Lukashenko yn dweud nad yw’n “poeni” a yw’r weithred yn deg neu beidio.
Fe fu wrth y llyw ers 1994 ac mae’n cael ei ystyried yn arweinydd llawdrwm sy’n ceisio tawelu gwrthwynebwyr a’r cyfryngau.
Mae 516 o ymgeiswyr yn sefyll ar gyfer 110 o seddi yn yr etholiad.
Ond mae pryderon bod y canlyniadau’n cael eu trefnu gan nad yw’r blychau pleidleisio wedi’u diogelu ac mae’r pleidleisiau’n cael eu cyfri heb oruchwylwyr annibynnol.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth rhywun ffilmio pennaeth etholiadol profiadol yn gwthio papurau i mewn i flwch pleidleisio, ond mae’r pennaeth wedi beirniadu’r unigolyn am ffilmio’r weithred.
Mae awdurdodau Belarws yn cael eu beirniadu’n gyson am y modd maen nhw’n cynnal etholiadau ac yn trin gwrthbleidiau.