Mae’r ffotograffydd diwylliannol Terry O’Neill wedi marw’n 81 oed.
Fe ddaeth i’r amlwg fel ffotograffydd ar gyfer nifer o fandiau mawr y 1960au, gan gynnwys y Beatles a’r Rolling Stones, a llu o actorion gan gynnwys Michael Caine a Raquel Welch.
Roedd yn adnabyddus am ei luniau oedd wedi ymddangos ar gloriau albymau cerddoriaeth a chylchgronau ar draws y byd.
Ond roedd e hefyd wedi tynnu llun Brenhines Loegr, y cyn-brif weinidog Winston Churchill a chyn-arlywydd De Affrica Nelson Mandela.
Ym myd pêl-droed, roedd Bobby Moore, Franz Beckenbauer, Pele, George Best a Brian Clough ymhlith ei bortffolio, yn ogystal â’r paffiwr Muhammad Ali.
Roedd e hefyd yn un o’r ffotograffwyr cyntaf i dynnu llun Sean Connery yn chwarae’r cymeriad James Bond.
Fe dderbyniodd e CBE yn ddiweddar am ei wasanaeth i fyd ffotograffiaeth.
Ond fe fu’n sâl yn y cyfnod hwnnw hefyd, gan dderbyn triniaeth am ganser y prostad.