Mae ocsiwn o eitemau’n ymwneud â’r bardd Waldo Williams ar gyfer Cymdeithas Waldo yng Nghrymych wedi codi dros £7,000.
Ymhlith yr eitemau roedd argraffiad cyntaf o’r gyfrol ‘Dail Pren’ (Tachwedd 1956) wedi’i llofnodi gan y bardd ei hun, a honno’n cael ei gwerthu am “arian mawr iawn” yn ôl cyd-ysgrifennydd y Gymdeithas, Alun Ifans, er nad oedd yn fodlon datgelu’r union ffigwr.
Roedd lluniau a llawysgrifau gwreiddiol ymhlith y casgliad, gan gynnwys nifer o ganeuon wedi’u cofnodi yn llawysgrifen y cyfansoddwyr.
Mae Alun Ifans yn dweud y bydd yr arian yn sicrhau bod gwaith y gymdeithas, a gafodd ei sefydlu yn 2010, yn gallu mynd yn ei flaen.
“Fel pob elusen, cymdeithas, clwb ac ati, mae eisiau arian i gario ymlaen a dydy Cymdeithas Waldo ddim gwahaniaeth,” meddai wrth golwg360.
“Felly er mwyn codi arian i sicrhau dyfodol Cymdeithas Waldo, ges i’r syniad o gynnal ocsiwn Llên, Celf, Llun a Chân.
“Hynny yw, lluniau gen arlunwyr, dechrau llyfrau awduron, cerddi gen y beirdd a hefyd caneuon fel Anfonaf Angel, Y Cwm ac yn y blaen.
“Yn y gorffennol, y’n ni wedi comisiynu John Meirion Morris Llanuwchllyn i wneud penddelw o Waldo.
“A phamffledi hefyd, hanes taith bywyd Waldo o gwmpas Prydain, pamffledi A1 dwyieithog. Ry’n ni wedi argraffu miloedd o’r rheiny a’u dosbarthu nhw am ddim.
“Ry’n ni wedi cynnal placiau mewn nifer o lefydd yn gysylltiedig â Waldo, ry’n ni wedi cael darlithoedd blynyddol ers naw mlynedd. Yn 2010 sefydlwyd Cymdeithas Waldo.
“Mae eisiau arian i gario ymlaen efo cymdeithasau, i wneud yn siŵr fod digon o arian y tu ôl i Gymdeithas Waldo i barhau â’r gwaith da yn y dyfodol – ei heddychiaeth, ei farddoniaeth, ei lenyddiaeth, ei frogarwch ac roedd yn Grynwr mawr hefyd.”