Mae oedi mawr ar y ffyrdd yn Girona ar ôl i ymgyrchwyr tros annibyniaeth i Gatalwnia atal y traffig ar gyrion y ddinas.

Dechreuodd yr ymgyrchwyr ymgynnull neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 12), gan godi blocâd allan o goed a bariau metel oddi ar y ffyrdd.

Ar ôl i’r heddlu gyrraedd, fe wnaeth nifer o’r ymgyrchwyr roi’r bariau ar dân.

Yn ôl yr awdurdodau, mae’r gwasanaethau brys wedi rhoi bwyd, diodydd a blancedi i’r gyrwyr a’r teithwyr ar y ffyrdd dros nos.

Mae 84 o bobol wedi cael eu cludo ar fws i ganolfan chwaraeon am ychydig oriau o gwsg.

Cefndir

Daw’r blocâd yn dilyn etholiadau yn Sbaen ddydd Sul, gyda phleidiau gwrth-annibyniaeth ac asgell dde yn cipio nifer sylweddol o seddi.

Mae’r protestwyr yn grac yn dilyn carcharu naw o arweinwyr annibyniaeth Catalwnia.

Cafodd 18 o bobol eu harestio ddoe ar ôl atal ffyrdd ar y ffin rhwng Sbaen a Ffrainc am rai oriau.