Mae elusen banc bwyd newydd gael eu chwe mis prysuraf erioed – ac yn dweud bod traean o’u parseli bwyd yn y cyfnod hwnnw wedi’u rhoi i blant.
Dywed The Trussell Trust, sydd yn gweithredu rhwydwaith o fanciau bwyd ledled y Deyrnas Unedig, fod 820,000 o barseli bwyd argyfwng wedi eu darparu yn y chwe mis diwethaf.
Mae hyn yn gynnydd o 23% ar yr un cyfnod yn 2018 – y cynnydd mwyaf mae’r elusen wedi ei brofi dros gyfnod o bum mlynedd.
Dywed mai incwm budd-daliadau isel ac oedi neu newidiadau i fudd-daliadau yn cael eu talu yw’r prif resymau am y cynnydd.
Mae’r ffaith fod pobol yn gorfod aros am bum wythnos am eu taliad Credyd Cynhwysol cyntaf hefyd yn rheswm am y cynnydd.