Mae llywodraeth Awstralia wedi cyhoeddi stad o argyfwng ledled ei thalaith mwya’ poblog, wrth i danau gwyllt barhau i ledaenu.

Mae pobol New South Wales wedi cael eu rhybuddio i adael eu tai.

Mae’r tanau gwaetha’ yng ngogledd-ddwyrain yr ardal, lle mae tri o bobol wedi marw a rhagor na 150 o gartrefi wedi cael eu dinistrio ers dydd Gwener (Tachwedd 8).

Mae rhybudd argyfwng mewn lle ar gyfer Sydney, yn ogystal â chymunedau i’r gogledd ac i’r de o’r ddinas.