Mae brenin Sbaen wedi cyrraedd Ciwba ar y daith wladol gyntaf erioed i’r ynys gan aelod o deulu brenhinol y wlad.
Mae’r Brenin Felipe a’r Frenhines Letizia yn Hafana ar ddechrau tridiau o ymweliadau â’r brifddinas a Santiago.
Yn ystod eu cyfnod yn yr ynys, fe fyddan nhw’n ymweld â safleoedd hanesyddol fel rhan o ddathliadau Hafana yn 500 oed.
Mae’r daith wedi ennyn cryn feirniadaeth gan wleidyddion asgell dde yn Sbaen. Mae’r daith yn cael ei gweld fel cam yn y cyfeiriad o greu cysylltiadau adeiladol rhwng Sbaen a’i chyn-wladfa.