Mae pedwar o bobol wedi’u hanafu’n ddifrifol, a 25 eraill wedi’u brifo, wedi i fws ar y ffordd rhwng Paris a Llundain droi drosodd yn Ffrainc.
Fe drodd y bws ar ei ochr yn ardal gogledd y Somme.
Roedd y FlixBus yn teithio ar ffordd wleb a llithrig ac yn cario teithwyr o Sbaen, America, Awstralia, yr Iseldiroedd, Rwmania, Rwsia, gwledydd Prydain a Ffrainc.
Roedd 32 o bobol ar y bws.