Gallai cytundeb masnach rhwng Llywodraeth Prydain a’r Unol Daleithiau arwain at breifateiddio gwasanaethau iechyd yng Nghymru, yn ôl Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd.

Mae’n rhybuddio y byddai preifateiddio yn effeithio ar egwyddorion craidd y Gwasanaeth Iechyd, a hefyd ar allu cleifion i groesi ffiniau rhwng Cymru a Lloegr i dderbyn gofal.

Dywedodd Donald Trump yn y gorffennol y byddai’r Gwasanaeth Iechyd “ar y bwrdd” fel rhan o unrhyw drafodaethau am gytundebau masnach.

Ac mae Boris Johnson wedi gwrthod wfftio’r posibilrwydd y gallai rhagor o wasanaethau iechyd gael eu preifateiddio yn Lloegr.

Serch hynny, mae lle i gredu bod trafodaethau ar y gweill gyda chwmnïau cyffuriau i geisio cytunebau masnach gyda’r Unol Daleithiau, a allai olygu bod prisiau meddyginiaethau’n codi’n sylweddol. 

Gwasanaethau iechyd yng Nghymru

Hyd yn hyn, dydy Llywodraeth Lafur Cymru ddim wedi preifateiddio gwasanaethau iechyd, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cadw at egwyddorion Aneurin Bevan fel sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd.

Dywed Llafur Cymru eu bod yn buddsoddi’n sylweddol uwch na Llywodraeth Geidwadol Prydain mewn gwasanaethau iechyd, mae presgripsiynau’n rhad ac am ddim ac mae modd parcio’n rhad ac am ddim mewn ysbytai. 

‘Cynllwyniau’ 

“Cafodd y Gwasanaeth Iechyd ei eni yng Nghymru ac fe gafodd ei gyflwyno gan Lafur,” meddai Vaughan Gething.

“Byddwn yn brwydro i’w warchod rhag ymdrechion y Torïaid a Donald Trump i’w werthu fesul dipyn i’r prynwr uchaf.

“Bob dydd, rydym yn dysgu mwy am gynllwyniau a chyfarfodydd cudd y Torïaid gyda chwmnïau o’r Unol Daleithiau i danseilio’r pethau sy’n annwyl gennym am ein Gwasanaeth Iechyd.

“Boris Johnson yw’r bygythiad mwyaf i’r Gwasanaeth Iechyd ers 1948.

“Mae’r Torïaid wedi treulio degawd yn torri cyllidebau Cymru, ac yn rhoi pwysau ar wasanaethau’r rheng flaen.

“Rhaid i bobol Cymru sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, ac ymuno â ni i’w gwneud yn glir nad yw ein Gwasanaeth Iechyd ar werth.”