Mae cwch sy’n cludo 151 o ffoaduriaid o Libya wedi cyrraedd y lan ar ynys Sicilly yn yr Eidal.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd y ffoaduriaid yn cael aros yn yr Eidal, neu a fyddan nhw’n cael eu symud i un o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.
Daw’r cadarnhad oriau’n unig ar ôl i gwch Almaenig ollwng 88 o ffoaduriaid yn yr Eidal.
Bydd 67 ohonyn nhw’n mynd i wledydd eraill, tra bydd y gweddill yn cael aros.
Ymhlith y ffoaduriaid mae pump o blant oedd yn teithio heb oedolion.