Mae Nicola Sturgeon yn dweud bod “pethau wedi newid” yn yr Alban, ar ôl i Boris Johnson wrthod rhoi’r hawl i gynnal ail refferendwm annibyniaeth.
Mae prif weinidog Prydain yn dweud na fydd refferendwm arall tra ei fod e’n brif weinidog, gan ddweud nad oes rheswm dros gefnu ar addewid yr SNP mai refferendwm “unwaith mewn cenhedlaeth” oedd e yn 2014.
Daw ymateb Boris Johnson ar ôl i Nicola Sturgeon gyhoeddi ei bod hi am geisio caniatâd o fewn diwrnodau i’r etholiad cyffredinol fis nesaf i roi cynnig arall ar refferendwm annibyniaeth.
Mae’n dweud ei bod hi’n credu y byddai Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, yn rhoi’r hawl iddi pe bai’n dod yn brif weinidog.
“Dw i ddim eisiau cael un,” yw ymateb Boris Johnson i’r posibilrwydd o ail refferendwm.
“Fe gawson ni un yn 2014, ac fe ddywedwyd wrth bobol Prydain, pobol yr Alban yn 2014 fod hwn yn ddigwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.
“Dw i ddim yn gweld unrhyw reswm dros gefnu ar hynny, ar y sicrwydd hwnnw.”
Mewn rali yn Glasgow, dywed Nicola Sturgeon fod yr Alban “ar groesffordd” ynghylch ei dyfodol yn sgil Brexit, a’i bod yn bryd i Albanwyr “ddewis drostyn nhw eu hunain”.
Mae’r Ceidwadwyr yn wfftio’r galw am ail refferendwm, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhuddo Jeremy Corbyn o “hollti’r Deyrnas Unedig” pe bai’n ildio i ddymuniadau’r SNP am refferendwm.