Mae aelod seneddol Llafur yn dweud bod aelod seneddol Ceidwadol wedi’i gyffwrdd mewn modd amhriodol mewn bar.

Dywed Paul Sweeney ei fod yn gofidio y byddai’r honiadau yn erbyn Ross Thomson yn cael eu rhoi o’r neilltu cyn yr etholiad cyffredinol.

Mae e wedi mynd at y Comisiynydd Safonau i adrodd am y digwyddiad.

Ross Thomson oedd yn gyfrifol am ymgyrch arweinyddol Boris Johnson yn yr Alban, ac mae’n gwadu’r honiadau ac yn cyhuddo Paul Sweeney o “honiadau cwbl ffals at ddiben sgorio pwyntiau gwleidyddol”.

Dywed llefarydd ar ran Paul Sweeney ei fod yn teimlo ei bod yn bwysig gwneud yr honiadau’n gyhoeddus ar drothwy’r etholiad cyffredinol fis nesaf, gan nad yw’n teimlo bod ymchwiliad priodol wedi cael ei gynnal hyd yn hyn.

Y digwyddiad honedig

Yn ôl Paul Sweeney, fe wnaeth Ross Thomson ei gyffwrdd mewn bar yn Nhŷ’r Cyffredin fis Hydref y llynedd.

Mae’n dweud iddo geisio rhoi ei ddwylo i lawr ei drowsus.

“Ro’n i’n teimlo fel pe bawn i wedi fy mharlysu,” meddai.

“Roedd yn rhywbeth wnaeth achosi sioc.

“Ro’n i’n oer ac yn chwysu, roedd yn erchyll.”

Mae’n dweud ei fod yn ofni’r canlyniadau pe bai’n taro Ross Thomson o flaen newyddiadurwyr a’i fod e wedi penderfynu gadael.

Ond mae’n dweud ei fod e’n teimlo “dan fygythiad” o’i weld yn San Steffan o hyd, ac nad yw’n “ffit” i fod yn aelod seneddol.

Mae Ross Thomson yn cyhuddo Paul Sweeney o “dorri cyfrinachedd” drwy adrodd am y digwyddiad, ac nad oes ganddo “ddewis” ond ei amddiffyn ei hun.