Dylai llywodraeth Myanmar gymryd mwy o gyfrifoldeb am ffoaduriaid Rohingya yn y wlad, yn ôl Antonio Guterres, ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
Mae’n galw ar y llywodraeth i roi sylw i’r rhesymau pam fod 730,000 o bobol wedi ffoi o dalaith Rakhine, a sicrhau bod modd iddyn nhw ddychwelyd yn ddiogel.
Fe fu’n siarad wrth gyfarfod ag arweinwyr gwledydd de-ddwyrain Asia yng Ngwlad Thai.
“Dw i’n dal yn gofidio’n fawr am y sefyllfa ym Myanmar, gan gynnwys talaith Rakhine, a helynt nifer enfawr o ffoaduriaid sy’n dal i fyw mewn amodau cynyddol anodd,” meddai Antonio Guterres.
“Cyfrifoldeb Myanmar o hyd, wrth gwrs, yw mynd at wraidd yr hyn sy’n ei achosi a sicrhau amgylchfyd addas ar gyfer dychwelyd ffoaduriaid yn ddiogel, yn wirfoddol, yn urddasol mewn modd cynaladwy i dalaith Rakhine, yn unol ag arferion a safonau rhyngwladol.”
Ymateb gwledydd cyfagos
Mae ymateb cymdogion Myanmar yn amrywio’n fawr.
Tra bod y rhan fwyaf o wledydd yn fodlon cadw at yr egwyddor o beidio ag ymyrryd, mae gwledydd fel Malaysia ac Indonesia, sydd â thrwch y boblogaeth yn Fwslimiaid, am weld gwledydd yn ne-ddwyrain Asia yn cymryd camau gweithredol i warchod y ffoaduriaid.
Mae eraill yn eu hystyried yn fewnfudwyr anghyfreithlon o Bangladesh ac felly, ychydig iawn o hawliau sydd ganddyn nhw.
Cynnig cymorth dyngarol yw prif gyfrifoldeb cymdogion Myanmar ar hyn o bryd.