Mae llywodraethau’r Alban ac Iwerddon yn cynnal adolygiad i geisio dod o hyd i gyfleoedd i gydweithio ar feysydd polisi allweddol.
Bydd yr adolygiad yn rhoi sylw i’r cydweithio sydd eisoes yn digwydd, ac yn chwilio am ffyrdd newydd o ddatblygu’r berthynas rhwng y ddwy wlad geltaidd.
Bydd iechyd, masnach, ymchwil a diwylliant yn cael sylw arbennig yn yr adolygiad cyntaf o’i fath, sydd wedi cael ei lansio gan gynrychiolwyr o’r ddwy lywodraeth.
Mae disgwyl i adroddiad gael ei gyhoeddi yn y gwanwyn, gan osod targedau hyd at 2025.
‘Ffrindiau’
Yn ôl Fiona Hyslop, Gweinidog Materion Allanol yr Alban, mae Iwerddon “yn un o ffrindiau hyna’r Alban, a’r ddwy wedi’u cysylltu gan hanes, daearyddiaeth a diwylliant”.
Dywed Simon Coveney, Gweinidog Materion Tramor Iwerddon, fod datganoli wedi cryfhau’r berthynas rhwng y ddwy wlad.
“Dw i’n uchelgeisiol o ran y berthynas, ac am adeiladu ar y cydweithio ardderchog sy’n bod eisoes, ac am adnabod meysydd polisi newydd rydyn ni’n eu rhannu lle gallwn ni ddysgu oddi wrth ein gilydd a chydweithio er lles ein trigolion,” meddai.