Mae dyn 22 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio babi deg mis oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn ardal Farnworth toc ar ôl 5.30 nos Wener (Tachwedd 1) yn sgil pryderon am y plentyn, a fu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Enw’r ferch fach oedd Aiman Abbas Toor, meddai’r heddlu.
Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio datrys sut y bu farw, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.