Mae tân wedi dinistrio un o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn Japan, gan larpio castell hanesyddol Shuri ar ynys ddeheuol Okinawa.

Fe gynheuodd y fflamau yn gynnar fore heddiw (dydd Iau, Hydref 31) ac ymledu yn gyflym iawn trwy’r adeilad.

Fe fu ymladdwyr tân yn gweithio’n galed am bron i ddeuddeg awr, cyn dod â’r tân dan reolaeth.

Fe ddechreuodd y tân, meddai’r awdurdodau, ym mhrif adeilad y castell, gan ymledu hefyd i adeiladau eraill. Mae tair neuadd fawr, ynghyd â phedwar strwythur arall, wedi’u llosgi i’r llawr.

Roedd disgwyl i’r wyl flynyddol sy’n cael ei chynnal yn y castell, bara trwy gydol yr wythnos hon, ond mae gweddill y digwyddiadau wedi’u canslo bellach.