Mae’r heddlu yn Japan wedi dod o hyd i gorff ar ôl i ddringwr fod yn darlledu ei ymdrechion i ddringo mynydd Fuji yn fyw ar wefan YouTube.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw gan bobol fu’n gwylio’r fideo, ac fe ddaethon nhw o hyd i gorff 9,800 troedfedd i fyny’r mynydd – tua thri chwarter y ffordd tua’r copa.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd ai corff y dringwr yw hwn.

Yn y fideo, mae’r dringwr yn cwyno bod ei fysedd yn oer, ac mae modd gweld fod y llwybrau’n fwy cul wrth ddringo’n uwch i fyny’r mynydd.
Mae’n dweud wedyn fod angen bod yn ofalus ar lethr serth a llithrig, cyn llithro a chwympo wrth i’r fideo ddod i ben.

Daeth tymor dringo mynydd Fuji i ben fis diwethaf, ond gall pobol barhau i ddringo y tu allan i’r tymor hwnnw hefyd.