Mae pryderon fod cannoedd o eirth coala wedi cael eu lladd yn dilyn tanau difrifol yn nwyrain Awstralia.

Mae’r tanau wedi dinistrio tir ar hyd yr arfordir lle mae’r koala fel arfer yn byw.

Mae arbenigwyr cadwraeth yn gobeithio y bydd modd iddyn nhw ddechrau chwilio’r wythnos hon am anifeiliaid sydd wedi goroesi.

Mae 4,900 erw o dir wedi cael eu llosgi yn dilyn stormydd yn New South Wales, ac mae lle i gredu bod y koala yn byw ar ddau draean o’r tir hwnnw.

Maen nhw fel arfer yn dringo coed yn ystod tanau difrifol, ac mae modd iddyn nhw oroesi os yw’r tân yn mynd heibio’n gyflym.