Mae Jair Bolsonaro, arlywydd Brasil, wedi amddiffyn ei lywodraeth yn dilyn beirniadaeth o’u hymateb i danau’r Amazon.

Mae’n ymweld â Sawdi Arabia ar hyn o bryd.

O’r fan honno, fe fu’n feirniadol o Emmanuel Macron, arlywydd Ffrainc, ond yn canmol Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau.

“Mae rhanbarth yr Amazon yn perthyn i ni,” meddai yn ystod anerchiad.

Dywed arbenigwyr fod yr Amazon yn amddiffyn y wlad rhag peryglon cynhesu byd eang, gan fod planhigion yn dal carbon deuocsid o’r amgylchedd.

Mae lleithder o’r coed hefyd yn effeithio cwymp glaw a’r hinsawdd ledled De America a thu hwnt.

Yn gynharach eleni, yn dilyn pwysau gan y cyhoedd, fe wnaeth Jair Bolsonaro atal ffermwyr yr Amazon rhag cynnau tanau am 60 diwrnod, ac fe anfonodd e’r lluoedd arfog i geisio diffodd y tanau.