Fe fydd ymgyrchwyr yn tynnu sylw at bwysigrwydd diagnosis cynnar ar Ddiwrnod Canser y Pancreas y Byd eleni.
Y canser hwn sydd ag un o’r cyfraddau goroesi isaf, gyda llai na 10% yn byw’n hirach na phum mlynedd.
Mae mwy na 1,184 o bobol yn marw o’r salwch bob dydd ym mhob rhan o’r byd. Dyw’r symtomau ddim fel arfer yn ymddangos tan ei bod yn rhy hwyr i drin y canser, ac maen nhw fel arfer yn cael eu trin fel symtomau salwch arall.
Mae’r symtomau’n cynnwys poen cefn a stumog, colli pwysau a chlefyd melyn. Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth sy’n achosi’r salwch, a does dim proses sgrinio ar ei gyfer.
Fe fydd mwy nag 80 o sefydliadau o 30 o wledydd ar chwe chyfandir yn codi ymwybyddiaeth o’r symtomau eleni.
Yr ymgyrch
Mae pobol ar draws y byd yn cael eu hannog i fynd i wefan www.worldpancreaticcancerday.org a rhannu fideos a phostiadau ar wefannau cymdeithasol Facebook a Twitter.
Mae modd rhannu postiadau gan ddefnyddio’r hashnodau #WPCD a #DemandBetter, a dilyn cyfrifon @worldpancreatic ar Twitter a @worldpancreaticcancerday ar Facebook.
Gall pobol hefyd gefnogi’r ymgyrch drwy wisgo porffor ar Dachwedd 21.