Mae erlynwyr yn Los Angeles wedi gollwng cyhuddiad o ymosod yn rhywiol yn erbyn yr actor, Kevin Spacey.
Daw’r penderfyniad ar ôl i’r unigolyn oedd yn gwneud yr honiadau farw.
Fe wnaeth masseur yr honiad fod Kevin Spacey wedi cyffwrdd â fe mewn modd rhywiol yn ystod sesiwn tylino yn ei gartref ym Malibu ym mis Hydref 2016.
Dywed erlynwyr nad oes modd profi’r honiadau heb fod y cyhuddwr yn gallu rhoi tystiolaeth.
Fe ddwynodd achos preifat yn erbyn yr actor gan ddefnyddio’r llysenw John Doe, a does dim penderfyniad ynghylch yr achos hwnnw eto. Cafodd cyhuddiad arall yn ei erbyn ei ollwng ym mis Gorffennaf.
Roedd wedi’i gyhuddo o gyffwrdd â dyn 18 oed yn Nantucket yn 2016, ond fe wnaeth Kevin Spacey ddefnyddio’i hawl i beidio â rhoi tystiolaeth ynghylch negeseuon testun oedd wedi cael eu dileu.
Mae ymchwiliad ar y gweill yn Llundain i gamymddwyn rhywiol yr actor, ond dyw hi ddim yn glir beth yw sefyllfa’r ymchwiliad hwnnw erbyn hyn.