Mae’r heddlu wedi cau’r M5 i’r ddau gyfeiriad yn Swydd Gaerloyw ar ôl i gorff gael ei ddarganfod ar y ffordd.
Daeth yr heddlu o hyd i’r corff yn gynnar fore heddiw (dydd Mercher, Hydref 20) rhwng cyffordd 11A a chyffordd 12.
Mae’r digwyddiad yn effeithio ar ryw ddeng milltir o’r draffordd, ac mae disgwyl cryn oedi wrth i deithwyr geisio cyrraedd canolbarth a de-orllewin Lloegr.
Mae ymchwiliad ar y gweill.