Mae’r heddlu sy’n chwilio am ddynes o wledydd Prydain sydd ar goll yn Cambodia, yn holi chwech o ddynion sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth.

Cafodd Amelia Bambridge, o Worthing, Gorllewin Sussex, ei gweld ddiwethaf yn ynys Koh Rong yn nhalaith Sihanoukville yn hwyr nos Fercher (Hydref 23).

Daeth staff yn Police Beach, lleoliad preifat sy’n cynnal partïon, o hyd i sach deithio borffor y ferch 21 oed, yn cynnwys ei phwrs, ffôn a chardiau banc, y bore canlynol.

Mse’r heddlu wedi derbyn tystiolaeth ysgrifenedig gan ymwelwyr o’r Gorllewin yn dweud bod y dynion wedi ymddwyn yn wael tuag at dwristiaid tramor yn y gorffennol, yn enwedig menywod.

Mae’r ardal chwilio bellach yn cynnwyd ynysoedd cyfagos ac ymhellach ar y môr yng Ngwlff Gwlad Thai.

Mae pysgotwyr lleol hefyd yn ne-orllewin Cambodia wedi cael rhybudd i fod ar eu gwyliadwraeth.

Mae tua 150 o wirfoddolwyr a heddlu Cambodia yn cymryd rhan mewn chwiliadau o’r traethau a’r jyngl.