Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn yng ngwledydd Prydain wedi cynyddu ychydig i 8.9%, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Mae hyn yn cymharu ag 8.6% y llynedd, sef y bwlch lleiaf ers i gofnodion ddechrsu cael eu cadw yn 1997, pan oedd yn 17.4%.
Mae’r gwahaniaeth yng nghyflog yr holl weithwyr gwrywaidd a benywaidd, gan gynnwys y rhai mewn swyddi rhan-amser, wedi gostwng o 17.8% yn 2018 i 17.3% yn 2019, ac mae’n parhau i ostwng, yn ôl yr adroddiad.
I bobol o dan 40 oed, mae’r bwlch cyflog ar gyfer gweithwyr amser llawn bellach yn “agos at sero”.
Fodd bynnag, y bwlch cyflog i bobol 40 i 49 oed yw 11.4% a mwy na 15% ar gyfer y rhai rhwng 50 a 59 oed a hŷn na 60 oed.
Wrth siarad am y ffigurau diweddaraf, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Frances O’Grady, y byddai’n cymryd “degawdau” i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar y gyfradd gyfredol.
“Rhaid i’r Llywodraeth gyflymu. Mae’n amlwg nad yw cyhoeddi bylchau cyflog rhwng y rhywiau yn ddigon ynddo’i hun,” meddai.