Mae dyn wedi ei arestio ac wedi ei gyhuddo o saethu ac anafu dau ddyn a oedd wedi ei ddal yn ceisio rhoi drws mosg ar dân.

Dywed yr awdurdodau yn Ffrainc fod y dyn wedi ei arestio yn ei dŷ yn nhref Bayonne.

Dydyn ngw dfim eto wedi rhyddhau rhagor o wybodaeth am y dyn, a dydyn nhw chwaith ddim wedi dweud beth oedd y rheswm y tu ôl i’r weithred.

Mae’r ddau ddyn 74 a 79 oed a gafodd eu saethu, wedi cael eu cludo i’r ysbyty.