Mae awdurdodau Hong Kong wedi gwahardd yr ymgyrchydd democratiaeth Joshua Wong rhag sefyll mewn etholiad – penderfyniad sy’n profi ymyrraeth gan Beijing, meddai’r gwleidydd.

Daw’r penderfyniad wrth i arweinydd y ddinas, Carrie Lam, wrthod datrysiad gwleidyddol nes bod trais yn y ddinas yn dod i ben.

Mae protestiadau wedi bod yn digwydd ers mwy na phedwar mis, ac mae Carrie Lam bellach yn rhybuddio y gallai dirwasgiad economaidd fod ar ei ffordd.

Cafodd Joshua Wong ei hysbysu gan swyddog etholiadol fod ei enwebiad fel ymgeisydd yn etholiadau fis Rhagfyr yn annilys, yn ôl copi o lythyr bostiodd ef ar ei gyfrif Trydar.

Cadarnhaodd y llywodraeth ei fod wedi ri ddiarddel, heb ei enwi.