Mae Boris Johnson wedi colli pleidlais yn San Steffan i gynnal etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Mi fethodd y Prif Weinidog å sicrhau’r mwyafrif o 434 o bleidleisiau ( dwy ran o dair aelidau Ty’r Cyffredin) yr oedd ei angen i gynnal etholiad o dan y ddeddf.

Dim ond 299 o Aelodau Seneddol bleidleisiodd dros y mesur, gyda 70 yn pleidleisio yn erbyn a channoedd yn ymatal.

Dywedodd Boris Johnson wrth Aelodau yn syth ar ôl y bleidlais y byddai’r llywodraeth yn ceisio eto i basio mesur “byr” yn galw am etholiad ar Ragfyr 12 – un na fyddai angen mwyafrif o ddim ond 320.

Mae dau gynnig am etholiad cynnar eisoes wedi cael eu gwrthod.