Mae dau o bobol wedi’u saethu’n farw ar gampws prifysgol yn Tecsas.
Cafodd 14 o bobol eu hanafu yn y digwyddiad mewn parti toc cyn canol nos neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 26).
Dydi’r heddlu ddim wedi dal y saethwr hyd yn hyn.
Dywed y brifysgol nad oedd y parti yn ddigwyddiad swyddogol.