Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth am wrthdrawiad rhwng moped a char Kia Stonic yn ardal Bae Cemaes.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad am oddeutu canol nos (dydd Sul, Hydref 27).
Mae gyrrwr y moped wedi’i gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl cael anafiadau difrifol i’w goes.
Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un a fu’n teithio rhwng Amlwch a Bae Cemaes ar y pryd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.