Mae Twrci wedi rhoi’r gorau iddi am y tro ar gyrchoedd milwrol yn Syria wedi iddi ddod i gytundeb gyda Rwsia a’r Unol Daliaethau.

Dywed gweinidog amddiffyn Twrci fod yr Unol Daliaethau wedi cyhoeddi fod milwyr Cwrdaidd wedi tynnu eu lluoedd o ardal Ankara yn dilyn saib o bum diwrnod yn yr ymladd.

O dan y cytundeb gyda Rwsia ac yr Unol Daliaethau bydd Twrci yn cadw rheolaeth o’r ardal maent wedi ei gymryd ers i’r ymladd ddechrau – oddeutu 75 milltir ar hyd y ffin ac 20 milltir i mewn i Syria.

Mae hefyd yn nodi mai milwyr Rwsia a Syria fydd yn cadw rheolaeth o weddill y ffin – gan fod lluoedd yr Unol Daliaethau wedi tynnu allan.