Mae gweinidog yr efengyl a’i wraig yn yr Alban mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad difrifol mewn coedlan yn ardal Moray pan fu farw person arall.

Cafodd yr heddlu eu galw ar ôl derbyn adroddiad am y digwyddiad yng Nghoedlan Birkenhill ger New Elgin am tua 9yb ddydd Llun (Hydref 21).

Cafodd tri pherson eu cludo i Ysbyty Dr Gray yn Elgin, lle bu farw Frank Kinnis, 83, yn ddiweddarach.

Fe ddioddefodd y Parchedig Morris Smith, o Eglwys Blwyf Aberlour, a’i wraig Janette – y ddau ohonyn nhw’n 70 oed – anafiadau difrifol i’w pen.

Dywed yr heddlu fod dyn, 35, wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Frank Kinnis.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys y Siryf yn Elgin heddiw (dydd Mercher, Hydref 23).