Fe fydd ysgol gynradd Gymraeg yn Abertawe’n cael cartref newydd yn dilyn buddsoddiad o £9.9m fel rhan o gynllun ar y cyd rhwng y cyngr sir a Llywodraeth Cymru.
Mae’r awdurdod wedi cymeradwyo cynllun sy’n golygu y bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan yn symud o’i chartref ar safle Ysgol Fabanod Graig yn Nhreforys i ardal y Clâs.
Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ar y safle i 420 o blant ddechrau y flwyddyn newydd, gyda’r bwriad o agor yr ysgol newydd yn 2021.
Bydd meithrinfa ar y safle hefyd wrth i’r Cyngor Sir ymateb i’r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn yr ardal.
Yn unol â pholisi’r Cyngor, fe fydd disgwyl i’r contractiwr gyflogi adeiladwyr lleol a darparu prentisiaethau a phrofiad gwaith i gefnogi’r economi leol.
‘Cam pwysig’
“Mae hwn yn gam pwysig,” meddai’r Cynghorydd Jennifer Rayner, sy’n gyfrifol yn y Cyngor Sir am Wella Addysg.
“Bydd yr ysgol newydd yn ddigon mawr i gynnwys dau ddosbarth mynediad fel ei bod yn gallu darparu ar gyfer y cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Bydd gan yr ysgol gae chwarae pob tywydd bach ac ardal gemau amlddefnydd a fydd ar gael i’r gymuned ei defnyddio y tu allan i oriau ysgol.
“Bydd hefyd ofal plant ar y safle er mwyn caniatáu i niferoedd â diddordeb mewn addysg Gymraeg dyfu wrth i’r ysgol dyfu.”
Safleoedd eraill yn Abertawe
Yn y cyfamser, mae’r Cyngor yn dweud bod y gwaith o ddatblygu dwy ysgol arall yn Abertawe’n mynd yn ei flaen yn dda.
Fe fydd uned drosglwyddo disgyblion yn cael ei datblygu yn y Cocyd, ac mae Ysgol Gynradd Gorseinon yn cael safle newydd.
Fe fydd Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw yn y Clâs hefyd yn cael cartref newydd ar dir ger Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe.