Mae ymchwiliad ar y gweill i lofruddiaeth 39 o bobol y cafwyd hyd i’w cyrff yng nghefn lori yn Essex.

Roedd un ohonyn nhw yn ei arddegau, meddai’r heddlu.

Daethpwyd o hyd i’r cyrff mewn lori ar Barc Diwydiannol Waterglade yn ardal Grays, a’r gred yw fod y cerbyd wedi teithio i Gaergybi o Iwerddon ar Hydref 19 ar ôl teithio o Fwlgaria.

Mae gyrrwr 25 oed y lori wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Mae’r gwaith o adnabod y bobol fu farw wedi dechrau, ond mae’r heddlu’n dweud y gallai’r broses fod yn un hir.