Daeth cadarnhad mai Dylan Williams yw dirprwy brif weithredwr newydd Cyngor Sir Ynys Môn.

Mae’n symud o fod yn Gyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol yr awdurdod.

Cafodd ei eni a’i fagu yn Niwbwrch, ac fe ymunodd â Chyngor Sir Ynys Môn yn 1996 fel hyfforddai yn y Gwasanaeth Cynllunio a Datblygu Economaidd, cyn cael ei benodi’n bennaeth yn 2010.

Yn dilyn ail-strwythuro, daeth yn Bennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn 2016, gan arwain a chyflawni nifer o Raglenni Strategol y Cyngor, gan chwarae rhan allweddol hefyd ym mhrosiect Wylfa Newydd. Ar hyn o bryd, mae’n arwain prosiectau ynni’r Fargen Twf yn y gogledd.

Mae’n byw yn Llanfairpwllgwyngyll..

‘Balch iawn’

“Dw ‘n falch iawn o gael fy mhenodi i swydd Ddirprwy Prif Weithredwr newydd Cyngor Môn,” meddai Dylan Williams.

“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda staff ac aelodau etholedig er mwyn parhau i ddarparu’r gwasanaethau gorau posib ar ran trigolion a chymunedau lleol, er yr heriau ariannol sylweddol ydan ni’n eu wynebu.

“Bydd yna heriau sylweddol wrth i mi ganolbwyntio ar raglenni trawsnewid allweddol, megis siapio lle a moderneiddio ysgolion yn ogystal â mentrau partneriaeth ehangach, ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol,” meddai wedyn.

“Dw i’n sicr yn awyddus i gychwyn ar y gwaith ac i wneud fy ngorau ar gyfer pobol Ynys Môn.”